Agenda Digidol

Gwasanaethau

Mae Agenda Digidol yn cynnig ystod eang o waith creadigol ar gyfer print, y we a chyfryngau darlledu. Rydym yn ymdrin â phob prosiect yn broffesiynol gyda dull ymatebol, a byddwn yn cynhyrchu gwaith gwreiddiol a chreadigol fydd yn helpu i gyfrannu at lwyddiant a thwf eich busnes.

Fel rhan o'r broses ddylunio, bydd Agenda Digidol yn cydweithio â chi i ddod i ddeall eich anghenion sefydliadol, eich safle yn y farchnad, eich agwedd a'r ffordd yr ydych yn gweithredu. Pan fyddwn yn hapus ein bod wedi dod i ddealltwriaeth, gallwn awgrymu cynllun creadigol fydd yn cyfleu eich neges yn ogystal â 'llais' eich cwmni neu sefydliad yn effeithiol.

Cynnwys ein gwasanaethau creadigol:

Hyfforddiant a gweithdai

Heblaw am yr uchod, rydym hefyd yn darparu gweithdai hyfforddi bob hyn a hyn. Gall ein gweithdai gael eu teilwra i bob lefel a gallu gan ddarparu hyfforddiant ar gyfer pecynnau meddalwedd y diwydiant neu fethodolegau dylunio.

Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach ynglyn â'r hyfforddiant y gallwn ei gynnig.

Copyright 2006 © Digital Agenda